skip to main content
Newcastle Emlyn Town Council crest

Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn

Archwiliad Cyfrifon Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn

 

Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr 

Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn

Y flwyddyn sy’n diweddu 31 Mawrth 2019

 

1. Dyddiad y cyhoeddiad 14/06/2019

 

2. Bob blwyddyn, mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati yn ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Am y flwyddyn sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2019, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol drwy wneud cais i:


Mrs S Jones

Awelon

Penboyr

Velindre

Llandysul

SA44 5JF

 

clerk@newcastleemlyntowncouncil.co.uk

 

rhwng yr oriau          5.30yh  a 6.30yh ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener

gan ddechrau ar          1 Gorffennaf 2019

a gorffen ar               26 Gorfennaf 2019

 

3. O 29 Gorffennaf 2019 hyd nes bod yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
 

     ·  yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon. Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton UK LLP, 11-13 Penhill Road, Cardiff, CF11 9UP

·  ac yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwrthwynebu’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf drwy Grant Thornton UK LLP, 11-13 Penhill Road, Cardiff, CF11 9UP.

·         Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i’r cyngor.

 

4. Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.